top of page

Gweddio Gyntaf

Prayer First

​Yn llythyr Paul at y Colosiaid mae'n ysgrifennu: Daliwch ati i weddïo drwy'r adeg, gan gadw'ch meddyliau yn effro a bod yn ddiolchgar. (Col 4:2, beibl.net)

Yn Antioch, rydyn ni’n credu bod gweddi yn ran sylfaenol i’n ffydd, ac mae gan bob un ohonom ein rhan i’w chwarae.

Mae sawl ffurf ar weddi: addoli, diolchgarwch, edifeirwch (dweud sori) ac ymbil (gofyn am bethau). Yn ogystal â’n bywyd gweddi ein hunain, gweddïwn gyda’n gilydd yn gyson ar fore Sul ac yn ein Llwythau.

In Paul's letter to the Colossians he writes: Devote yourselves to prayer, being watchful and thankful. (Col 4:2, NIV)  

At Antioch, we believe that prayer is a foundational block of our faith, and we all have our part to play.

Prayer takes many forms: worship, thanksgiving, repentance (saying sorry) and supplication/intercession (asking for things). As well as our own prayer life, we regularly pray together on Sunday mornings and in our Tribes.

IMG_1340.jpg

Mae gennym amser rheolaidd o weddi bob bore Mercher am 9:45yb @20 Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn - croeso i bawb.

Gellir rhannu ceisiadau am weddi trwy e-bost ar ein Cadwyn Weddi - dyma grŵp e-bost caeedig o bobl o Antioch sy’n barod i ymateb mewn gweddi i’r ceisiadau a wneir.

 

I gael gwybod am unrhyw agwedd ar weddi yn Antioch, gan gynnwys y gadwyn weddi, siaradwch â James Sheridan i gael gwybod mwy.

We have a regular time of prayer every Wednesday Morning at 9:45am @20 Station Road, Colwyn Bay - everyone is welcome. 

Prayer requests can be shared via email on our Prayer Chain - this is a closed email group of people from Antioch who are willing to respond in prayer to the requests made.

 

To find out about any aspect of prayer in Antioch, including the prayer chain, please speak to James Sheridan to find out more.

bottom of page