top of page

Cyngor Arian Cymunedol

Community Money Advice

Don’t worry alone;

we can work through it with you.

Peidiwch â phoeni ar eich pen eich hun;

gallwn weithio drwyddo gyda chi.

Mae Canolfan Cyngor Ariannol Antioch yn rhan o rwydwaith o dros 150 o ganolfannau cynghori sy'n rhan o Gyngor Ariannol Cymunedol. Bob blwyddyn mae'r canolfannau hyn yn helpu miloedd o bobl i ddelio â'u dyled. Mae nhw'n rhoi cyngor a chymorth ymarferol, diamod, cwbl gyfrinachol am ddim i bobl o bob cefndir.

The Antioch Money Advice Centre is part of the network of over 150 advice centres affiliated to Community Money Advice. Each year these centres help thousands of people deal with their debt. They provide free, unconditional, fully confidential advice and practical support to people from all walks of life.

Mae rhagoriaeth gwaith Cyngor Ariannol Cymunedol wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol drwy ennill Gwobr Gwirfoddoli Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines.

The excellence of the work of Community Money Advice has received national recognition by being awarded the prestigious Queen’s Diamond Jubilee Volunteering Award.

Mae'r cynghorwyr yn Antioch wedi'u hyfforddi'n llawn ac yn cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb hollol gyfrinachol am ddim. Gallwn siarad â’ch credydwyr ar eich rhan fel nad oes yn rhaid i chi ysgwyddo’r baich ar eich pen eich hun a byddwn yn asesu eich sefyllfa ac yn awgrymu’r camau gorau i chi. Mae’r Ganolfan wedi’i hawdurdodi a’i rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol felly gallwch fod yn hyderus o ansawdd y cyngor y byddwch yn ei dderbyn.

The advisors at Antioch are fully-trained and offer totally free and confidential face-to-face support. We can talk with your creditors on your behalf so that you don’t have to bear the burden alone and we will assess your situation and suggest to you the best course of action for you. The Centre is authorised and regulated by the Financial Conduct Authority so you can be confident of the quality of the advice you will receive.

Mae'r sesiynau trwy apwyntiad, neu gallwch alw heibio @20 Ffordd yr Orsaf i gael gwybod mwy.

Cyfeiriad: Rhif 20 Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn LL298BU

E-bost: moneyadvicecb@gmail.com neu ffoniwch 01492 485107

“Diolch am fod yn barod i wrando a pheidio â barnu fi. Dych chi wedi cynnig atebion ymarferol a syml ac mae cael rhywun i gyfeirio fy nghredydwyr ato fel nad oes rhaid i mi ddelio â nhw yn gymaint o ryddhad. Rwy'n teimlo fel pe bai pwysau enfawr wedi'i godi. Diolch” (Ms F.)

Sessions are by appointment, or you can drop in @20 Station Road to find out more.

Address: Number 20 Station Road, Colwyn Bay LL298BU

Email: moneyadvicecb@gmail.com or telephone 01492 485107

“Thank you for being prepared to listen and not to judge me. You have offered practical and simple solutions and just having someone 

to refer my creditors to so I don’t have to deal with them is such a relief. I feel as if a huge weight has been lifted. Thank you”(Ms F.)

Thanks, we will be in touch soon.

bottom of page