top of page

Beth yw cyfamod?

Mae ein Duw ni yn Dduw sy'n gwneud cyfamod ac yn cadw cyfamod. Rydyn ni eisiau i'n dealltwriaeth a'n defnydd o gyfamod gael eu gwreiddio'n llwyr yn yr esiampl y mae Duw yn ei rhoi i ni yn yr ysgrythurau. Gallwn weld o esiampl Duw i ni fod cyfamod yn addewid berthynasol, galonogol, grasol, buddiol ac yn cael ei roi i ni am ddim.

 

Pan fyddwn yn cyfamodi efo’n gilydd fel teulu o ddilynwyr Iesu a elwir yn Antioch, yr ydym, hyd eithaf ein gallu a chyda chymorth yr Ysbryd Glân, yn addo caru ein gilydd yng nghyd-destun perthnasoedd parhaus. Ceisiwn wneud hyn yn rasol ac yn rhydd, yn seiliedig ar yr hyn y gallwn ei roi a heb fod yn ddibynnol ar yr hyn y gallwn neu na allwn ei dderbyn yn ôl.

 

Fel eglwys, mae Iesu eisiau gwneud ei apêl gariadus, achubol trwom ni i fyd toredig ac adfer pawb i berthynas â’r Tad. Mae cyfamod i garu ein gilydd yn ein hatgoffa ni i gyd o ffordd bwerus o ddangos i’r byd sut olwg sydd ar gariad Duw. Mae ein cyfamod yn ein hatgoffa, yn ein sbarduno ac yn ein hannog i gadw’r gorchymyn i garu Duw ac eraill fel blaenoriaeth yn ein bywydau unigol a chyfunol.

 

"Arglwydd rydyn ni'n dy garu di ac eisiau dy wasanaethu di â phopeth ydyn ni. Helpa ni Iesu i gymryd y daith hon yn dda gyda thi ac yn y cyflawnder a roddaist i ni. Amen."

What is covenant?

Our God is a covenant making and covenant keeping God. We want our understanding and application of covenant to be rooted entirely in the example God gives to us in the scriptures. We can see from God's example to us that covenant is a relational, heartfelt, gracious, beneficial and freely gifted promise.

When we covenant together as the family of Jesus followers known as Antioch, we are, to the best of our ability and with the help of the Holy Spirit, promising to love one another in the context of ongoing relationships. We attempt to do this graciously and freely, based on what we are able to give and not being dependent on what we may or may not receive in return.

As church, Jesus wants to make his loving, redemptive appeal through us to a broken world and restore everyone to relationship with the Father. Covenanting to love one another is a good reminder to us all of a powerful way of demonstrating to the world what the love of God looks like. Our covenant reminds us, spurs us on and encourages us to keep the commandment to love God and others as a priority in our individual and collective lives.

"Lord we love you and want to serve you with all we are. Help us Jesus to take this journey well with you and in the fullness that you made available to us. Amen."

Cyfamod Antioch

Mae geiriau ein Cyfamod Antioch fel a ganlyn:

 

Dywedodd Iesu: “Gadewch imi roi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. Yn yr un ffordd roeddwn i'n eich caru chi, rydych chi'n caru'ch gilydd. Dyma sut bydd pawb yn cydnabod eich bod yn ddisgyblion i mi – pan fyddant yn gweld y cariad sydd gennych tuag at eich gilydd.” Am y deuddeg mis nesaf cyfamodwn â’r Arglwydd a’r teulu Antioch, gan ddibynnu’n llwyr ar yr Ysbryd Glân a hyd eithaf ein gallu, i ymrwymo i annog ein gilydd yn frwd i ufuddhau i’r gorchymyn trwy garu a gwasanaethu’r Arglwydd a’n gilydd, felly yn cyflawni gwirionedd yr ysgrythur.

The Antioch Covenant

The words of our Antioch Covenant are as follows:
 
Jesus said: “Let me give you a new command: Love one another. In the same way I loved you, you love one another. This is how everyone will recognise that you are my disciples - when they see the love you have for each other.”  For the next twelve months we covenant with the Lord and the Antioch family, totally depending on the Holy Spirit and to the best of our ability, to commit to actively encourage one another to obey the command by loving and serving the Lord and each other, so fulfilling the truth of scripture.

bottom of page